Libertino Records yn y Parrot.

Llun gan Y Parrot

Dydd Wener, 23fed o Mehefin, mae’r Tates yn dathlu y rhyddhad o’r sengl newydd, “Electric Girl” at y Parrot, Caerfyrddin.

Yn yfed i ffwrdd a’r cychwynol awkwardness, sydd wastad yn amgylchynu rhwng gigs. Yn enwedig yn y 40 munud gyntaf, chi’n lolio o gwmpas yn aros i’r fand dod ymlaen, digon dawel yn obeithio a fydd neb yn siarad a chi. Ond, ar ol fynd i’r gig efo cwpwl o ffrindau, a wnaeth y paragraff uchod ddim fod yn berthnasol i mi. Ond, allwch weld e yn rhai pobol, diolch fyth bod wastad awyrgylch dwym yn y Parrot, mae’r venue yn digon dyn, efo ddim llawer o le i symud, yn twylu chi o’r gwmpas y phobol. Lle fydd phawb yn Caerfyrddin yn dod allan i cefnogio’r sin lleol.

Efo pawb yn aros yn bryderus i’r fand gyntaf dod ymlaen, Los Blancos. Ar ol wneud ei ffordd i’r llwyfan, wnaeth y fand rhoi dipyn o sioe ymlaen, er cymryd fach o amser rhwng caneuon i ail tuno ac rhoi gwybod i’n gilydd amdano pwy can i chwarae nesaf, sy ddim ond yn adio i ei steil stanted slacker pop. Yn rhoi sioe acwstig efo cyferbyniad o pop punk i’r gynulleidfa. Wnaeth y swn gadw nghwmni i gitar Osian, chwaraewr i Los Blancos sydd da steil mwyaf ymosodol dwi erioed di weld. Sain credu dwy byth di weld gitarydd mwyaf ymosodol a melodig ar yr un pryd.

Yn weithio eu ffordd drwy’r set, efo pob can yn cael ymateb positif o’r gynulledifa, mae’r ymateb yma di fod yn harbinger cerddorol i Los Blancos, sydd newydd cael ei trac, “Maen Anodd Deffro Un” chwarae ar BBC 1. Wnaeth Los Blancos torri’r sel a darparu egni, egni a oedd di cael i gynnal trwy’r nos gan acts Adwaith a The Tates.

Efo Adwaith yn gosod ei offerynnau ar y llwfan, efo keyboard MASSIF yn dilyn, wnes i weld rhai pobol cymryd camau nol i wneud yn siwr pob ei phenau yn aros ar dop ei sgwyddau.

Wnaeth y fand chwarae caneuon neywdd, hen a can gyntaf sa ni byth di glywed. Can ddi enw, hanner ffordd drwy’r “Can ddi-enw” wnaeth tad gwirion un o’r aelodau Adwaith dweud wrtho, fod y band di recordio y gan yna y ddiwrnod cyn, mewn rhyw 20 munud. Gamp drawiadol a wnaeth dilyn y ansawdd enfawr o’r gan. Lisptic Coch oedd un o’r ganeuon ffefryn y nos, sengl sydd ffron a rhyddhau, sy’n dangos Adwaith fyw gadarn a annibynnol, yn gyfeirion y sylw at y profiadau mae ferched yn mynd drwy ar ol dod yn arfer i’r defrydau benywaidd drwy cyfryngau cymdeithasol a sylwadau wawdlyd. Er y difrifoldeb o’r lyrics, mae’r can ei hun yn cyflwyno fel darn o gerddoriaeth egniol, dan arweiniad steil cymleth drumio, Heledd Owen.

Llun gan yr awdur.

Efo’r band yn chwarae set 40 munud yn hyd, wnaeth grownd o phobol dechrau camau ymlaen yn fwy agos at y llwyfan, nawr yn dawnsio’n hapus i’r gerddoriaeth cyn iddo’r set benu efo’r sengl newydd, Lipstick Coch a wnaeth gau perfformiad Adwaith at y Parrot.

Wrth gwrs, heb anghofio Dj Hotel Del Salto, a wnaeth spino mixes i llenwu’r gofod rhwng y bands, lle fydd phobol yn amgylchynu y Parrot bar, yn llawenhu yn ei amrywiaeth o cwrw crefft.

Ar ol y arosiad hyr o’r Tates, yn dathlu ei sengly “Electric Girl” sydd wedi derbyn cyfres o plays ar y radio, yn ganol y BBC. Wnaeth frontman, Liam Fusco rhoi cyfeiriad ffrys i’r gynulleidfa, cyn i aelod o’r gynulleidfa neidio at y meic, gymryd amser i sicrhau fod pawb yn gwyboad faint mor dda yw’r Tates, digon dieuog. Mae na sense o anrhagweladwy sy’n digwydd yn llefydd fwy fach, elfen dwi’n siwr sy’n dennu phobol. Ond, mae na intimacy sy’n cael i rhannu rhwng band a gynulledifa. Yn sicr noson fythgofiad i holl artisitad Libertino. Gig sydd wedi galedu y sin gerddoriaeth yng Nghaerfyrddin.

Llun gan Y Tates